Telerau ac Amodau Raffl BUSW2611
Raffl yn agored i gyfranogwyr yr arolwg (darpar fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig) – 10 gwobr o £50
Telerau ac Amodau'r Raffl
- Hyrwyddwr a gweinyddwr
Gweinyddir y raffl hon gan Red Brick Research ar ran yr hyrwyddwr, Prifysgol De Cymru. - Cymhwysedd
Mae'r raffl yn agored i unigolion 16 oed neu hŷn sy'n ystyried astudio mewn prifysgol yn y DU, ac eithrio gweithwyr Prifysgol De Cymru, Red Brick Research, eu teuluoedd agos, ac unrhyw un sydd fel arall yn gysylltiedig yn broffesiynol â'r hyrwyddiad. Cadarnheir cymhwysedd trwy gyfres o gwestiynau yn yr arolwg, gydag enwau cyfranogwyr anghymwys yn cael eu tynnu allan lle bo'n berthnasol. Red Brick yw’r 'rheolwr' (yn unol â diffiniad cyfraith diogelu data) o’r data personol a gyflwynir er dibenion y raffl. - Gofynion Ymgeisio
Mae ymgeisio am ddim, ac nid oes angen prynu unrhyw beth.
I ymgeisio yn y raffl, rhaid i gyfranogwyr:
• lenwi'r arolwg i gyd;
• dewis cyfranogi yn y raffl ar ddiwedd yr arolwg; a
• darparu manylion cyswllt dilys (enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn).
Dim ond ymatebion arolwg sydd wedi'u llenwi i gyd gyda manylion cofrestru a chyswllt dilys fydd yn gymwys i ymgeisio.
Caniateir uchafswm o un cais fesul unigolyn. - Dyddiadau Agor a Chau
Mae'r raffl yn agor ar 18 Mai 2026 ac yn cau am 9am BST ddydd Mawrth 16 Mehefin 2026.
Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl yr amser hwn yn cael eu derbyn. - Dewis Enillwyr
Bydd enillwyr yn cael eu dewis ar hap o blith yr holl geisiadau cymwys gan ddefnyddio proses gyfrifiadurol ar hap.
Bydd y 10 cais dilys cyntaf a ddewisir yn cael gwobr yr un. - Y Wobr
Bydd pob enillydd yn cael £50. Gwneir taliadau drwy ein gwasanaeth trosglwyddo Wise, gwasanaeth talu sydd wedi'i awdurdodi gan yr FCA. Byddwch yn cael e-bost gan Wise yn gofyn i chi ddarparu eich manylion talu. Ar ôl i chi gadarnhau eich manylion, bydd y taliadau'n cael eu gwneud yn awtomatig. Nid oes angen i chi greu cyfrif gyda Wise i gael eich taliad.
Ni ellir trosglwyddo'r wobr ac ni chynigir unrhyw wobr arian parod na gwobr arall oni bai bod yr Hyrwyddwr yn cadw'r hawl i roi gwobr o werth cyfartal neu fwy yn ei lle os oes angen. - Hysbysu’r Enillydd a Hawlio’r Wobr
Bydd Red Brick Research yn cysylltu ag enillwyr drwy e-bost o fewn pythefnos i’r dyddiad cau.
Rhaid i enillwyr gadarnhau eu bod yn derbyn eu gwobr o fewn un mis calendr ar ôl i Red Brick Research gysylltu â nhw. Os nad yw enillydd yn ymateb o fewn y cyfnod hwn, bydd Red Brick Research yn dewis enillydd arall.
Rhoddir gwobrau o fewn 14 diwrnod i’r cadarnhad. - Cyhoeddusrwydd
Gellir gofyn i enillwyr gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd rhesymol sy'n ymwneud â'r hyrwyddiad, ond nid ydynt yn gorfod gwneud hynny. - Gwybodaeth am yr Enillwyr
Bydd cyfenw a sir yr enillwyr ar gael ar gais drwy e-bostio Arthur Parnell yn aparnell@boxdelta.com o fewn 4 wythnos i'r dyddiad cau.
Gall enillwyr wrthwynebu cyhoeddi eu manylion drwy gysylltu â Red Brick Research ar yr un cyfeiriad e-bost. - Diogelu Data
Bydd data personol (enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) yn cael ei gasglu drwy gwestiwn ar ddiwedd yr arolwg a'i brosesu gan Red Brick Research
• at ddiben gweinyddu'r raffl
• i ganiatáu i chi gofrestru er mwyn cysylltu â chi am ymchwil yn y dyfodol
• ac ar gyfer cyflawni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol cysylltiedig.
Bydd data o'r fath yn cael ei ddileu o fewn 3 mis i'r raffl gau.
Os ydych chi wedi dewis ar wahân i rywun gysylltu â chi ynghylch ymchwil yn y dyfodol mewn perthynas â'r prosiect hwn, gellir defnyddio eich data at y diben hwn hefyd. Lle rydych chi wedi cydsynio'n benodol, gellir cysylltu eich manylion cyswllt â'ch ymatebion arolwg at ddiben dewis cyfranogwyr ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn y dyfodol (fel cyfweliadau neu grwpiau ffocws) yn unig. Bydd yr holl ddata personol yn cael ei brosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data berthnasol. Am ragor o wybodaeth, gweler dolen polisi preifatrwydd. - Atebolrwydd Cyfyngedig
I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd Red Brick Research a Phrifysgol De Cymru yn atebol am unrhyw golled, difrod neu anaf sy'n deillio o gymryd rhan yn y raffl neu dderbyn y wobr. - Cyffredinol
Ni fydd Red Brick Research na Phrifysgol De Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau sy'n cael eu colli, eu gohirio, eu camgyfeirio neu sy’n anghyflawn oherwydd rhesymau technegol neu resymau eraill y tu hwnt i'w rheolaeth.
Mae Red Brick Research a Phrifysgol De Cymru yn cadw'r hawl i wrthod cais neu wrthod dyfarnu'r wobr i unrhyw un sy'n torri'r telerau ac amodau hyn.
Mae Red Brick Research a Phrifysgol De Cymru yn cadw'r hawl i ddirymu, atal, canslo neu ddiwygio'r hyrwyddiad lle bo angen gwneud hynny.
Mae penderfyniad Red Brick Research a Phrifysgol De Cymru ym mhob mater sy'n ymwneud â'r hyrwyddiad yn derfynol ac yn rhwymol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth yn cael ei chynnal. - Cyfraith Lywodraethol
Mae'r telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. - Cyswllt
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y raffl hon at Arthur Parnell yn Red Brick Research drwy e-bost: aparnell@boxdelta.com.
Raffl (£2000) yn agored i ysgolion cyswllt Prifysgol De Cymru sy'n cael 5 neu fwy o ymatebion i'r arolwg
Telerau ac Amodau’r Raffl ar gyfer ysgolion
- Hyrwyddwr a gweinyddwr
Gweinyddir y raffl hon gan Red Brick Research ar ran yr hyrwyddwr, Prifysgol De Cymru. Red Brick yw’r 'rheolwr' (yn unol â diffiniad cyfraith diogelu data) o’r data personol a gyflwynir er dibenion y raffl. - Cymhwysedd
Mae'r raffl yn agored i ysgolion sydd â darpariaeth ôl-16, y mae Prifysgol De Cymru wedi cysylltu â nhw gyda gwahoddiad i hyrwyddo Arolwg Ymchwil PDC. - Gofynion Ymgeisio
Mae ymgeisio am ddim, ac nid oes angen prynu unrhyw beth.
I gymryd rhan yn y raffl, rhaid i ysgolion sy'n cymryd rhan:
a. Gymryd camau i hyrwyddo Arolwg Ymchwil PDC i'w myfyrwyr ym Mlynyddoedd 12 a 13 drwy anfon e-bost gan ddefnyddio'r geiriad e-bost a awgrymir yng ngwahoddiad e-bost PDC a/neu drwy gylchlythyrau neu sianeli dewisol yr ysgol.
b. Cael o leiaf 5 ymateb dilys gan fyfyrwyr i'r arolwg. Bydd hyn yn cael ei gyfrif drwy gwestiwn yn yr arolwg yn gofyn i fyfyrwyr ddewis enw eu hysgol o gwymplen a gyflenwyd i Red Brick Research gan PDC at y diben hwn.
Caniateir uchafswm o un cais fesul ysgol - Dewis Enillydd
Ar ôl i'r arolwg gau, bydd ysgolion sy'n cael o leiaf 5 ymateb dilys gan fyfyrwyr yn cael eu cynnwys yn y raffl. Bydd yr ysgol fuddugol yn cael ei dewis ar hap o blith yr holl geisiadau cymwys gan ddefnyddio proses gyfrifiadurol ar hap.
Y cais dilys cyntaf a ddewisir a fydd yn cael ei ddewis fel enillydd y wobr. Yna bydd Red Brick Research yn cysylltu â phennaeth yr ysgol fuddugol yn uniongyrchol i drefnu gweinyddiaeth y wobr. - Y Wobr
Bydd yr ysgol fuddugol yn cael gwobr o £2000, a fydd yn cael ei dalu drwy drosglwyddiad banc i gyfrif banc yn y DU. Ni ellir trosglwyddo'r wobr ac ni chynigir unrhyw wobr arian parod na gwobr arall oni bai bod yr Hyrwyddwr yn cadw'r hawl i roi gwobr o werth cyfartal neu fwy yn ei lle os oes angen. - Hysbysu’r Enillydd a Hawlio’r Wobr
Bydd Red Brick Research yn cysylltu â’r cyswllt a enwir yn yr ysgol fuddugol drwy e-bost o fewn pythefnos i’r dyddiad cau.
Rhaid i enillwyr gadarnhau eu bod yn derbyn eu rhodd raffl o fewn un mis calendr ar ôl cysylltu â nhw. Os nad yw enillydd yn ymateb o fewn y cyfnod hwn, bydd Red Brick Research yn dewis ysgol fuddugol arall.
Rhoddir gwobrau o fewn 14 diwrnod i’r cadarnhad. - Cyhoeddusrwydd
Gellir gofyn i enillwyr gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd rhesymol sy'n ymwneud â'r hyrwyddiad, ond nid ydynt yn gorfod gwneud hynny. - Gwybodaeth am yr Enillwyr
Bydd enw'r ysgol fuddugol ar gael ar gais drwy e-bostio Arthur Parnell yn aparnell@boxdelta.com o fewn 4 wythnos i'r dyddiad cau.
Gall yr ysgol fuddugol wrthwynebu cyhoeddi eu manylion drwy gysylltu â Red Brick Research ar yr un cyfeiriad e-bost. - Diogelu Data
Bydd data personol (enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) yn cael ei gasglu a'i brosesu gan Red Brick Research at ddiben gweinyddu'r raffl ac ar gyfer cyflawni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol cysylltiedig yn unig.
Bydd data o'r fath yn cael ei ddileu o fewn 3 mis i gau'r raffl. - Atebolrwydd Cyfyngedig
I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd Red Brick Research a Phrifysgol De Cymru yn atebol am unrhyw golled, difrod neu anaf sy'n deillio o gymryd rhan yn y raffl neu dderbyn y wobr. - Cyffredinol
Ni fydd Red Brick Research na Phrifysgol De Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau sy'n cael eu colli, eu gohirio, eu camgyfeirio neu sy’n anghyflawn oherwydd rhesymau technegol neu resymau eraill y tu hwnt i'w rheolaeth.
Mae Red Brick Research a Phrifysgol De Cymru yn cadw'r hawl i wrthod cais neu wrthod dyfarnu'r wobr i unrhyw un sy'n torri'r telerau ac amodau hyn.
Mae Red Brick Research a Phrifysgol De Cymru yn cadw'r hawl i ddirymu, atal, canslo neu ddiwygio'r hyrwyddiad lle bo angen gwneud hynny.
Mae penderfyniad Red Brick Research a Phrifysgol De Cymru ym mhob mater sy'n ymwneud â'r hyrwyddiad yn derfynol ac yn rhwymol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth yn cael ei chynnal. - Cyfraith Lywodraethol
Mae'r telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. - Cyswllt
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y raffl wobrau hon at Arthur Parnell yn Red Brick Research drwy e-bost: aparnell@boxdelta.com.
